Hwylio lawr y davis Strait i Labrador.

CATRYN
David Rice
Sun 7 Sep 2014 17:40
Helo ichi i gyd adref yn Nghymru bell!
Pnawn dydd Sul yma yn hwylio lawr i’r de yn y  Davis Strait ac mae hi yn hyfryd ar haul allan. Ar y funud rydym yn 58.04 gogledd a 62.06 gorllewin.
Mae hi braidd yn rolli polli are ein cwch bach heddiw ond mae y mor yn arianog ar gwynt yn chwythu or gogledd. Rydym yn hwylio lawr lan Labrador ac rydym ryw bedwar milltir or ti, r ar mynyddoedd yn y pellter. Disgwyl cyrraedd yn Nain nos yfory i ddad lwythi dau or criw sydd yn gorfod mynd yn ol yw gwaith. Dyma y tro cyntaf ini gael cyfle i brynu bwyd ers gadael Pond Inlet ryw bythefnos y nol. Mae eisiau llysiau, ffrwythau, bara, choclad. Mae hi yn reit ryw brin yma ar y funud ond mae uwd, spam, ketchup a te!
Beth rydym ni i  gyd eisiau mwy na dim yw haul cynnes i gynesu ein esgyrn oer ar ol chwech wythnos yn y ty ia! Perffaith!
Roeddwm am roddi hanes Henry Hudson heddiw ar y blog achos ddaru ni basio Bae Hudson ryw ddau ddiwrnod yn ol. Mi fedrwch agor llyfr hanes unrhyw ddiwrnod or wythnos a gwybod beth ddaru Henry Hudson wneud a dim gwneud. Rwyf am gymeryd y cyfle I adael ichi wybod am ddyn cefn gwlad or ardal yma tuag at Bae Hudson wnaeth byth gael ei enw mewn llyfr hanes. Ddaru ei deulu am dros dau i dri mil o flynyddoedd addasu i fyw yn ei cartref ac cydbwyseddi gyda y byd natur. Cafodd Paddy Aqiatusuk ei eni  tu fewn i Bae Hudson ac tua 1952. Ddaru y gyffraidd yn Canada symud fo ai deulu mil o filltiroedd  ir gogledd i ynys Ellesmere yn erbyn ei dewis. Ddaru y gyffraidd ei symud i sefydlu “soverignity” ac hefyd llawer eraill yn erbyn ei dewis heb ddigon o fwyd a chefnogi.
Sculptor gwych iawn oedd Paddy ac mae Melaine McGrath wedi dweud ei hanes yn dda iawn yn ei llyfr  “The Long Exile”.
Ar ol swper heno  fydd Dai a finnau yn cael gawsaneth fach a chanu emynau yn Gymraeg  gan ei fod yn nos Sul.
Disgwyl eich bod i gyd wedi mwynhau y penwythnos.
Cofion cynnes, Hywel.