Hwylio ymlaen I Cambridge Bay! - gan Hywel

CATRYN
David Rice
Fri 22 Aug 2014 17:50
Annwyl Gymru,
Ar y funud rydym yn croesi Lancaster Sound o Rigby Inlet ac rydym yn 74.13 Gogledd a 89.53 Gorllewin. Maer gwynt yn chwythu or gogledd 12 knots ac rydym yn hwylio yn reit dda ir de ac yn gwneud trafeilio chwech knots yr awr. Rydym ar ein ffordd i Harbwr Leopold wedi cael ei enw ar ol Leopold MClintock .Mae ynys ir de or harbwr a llawer iawn o adar arno ac mi fyddwn yn mynd heibio hi mewn ryw dair awr. Rydym yn disgwyl fydd dim rhew o gwympas yr ynys ac fydd posib gweld adar newydd ar y trip. Bore ma dim ond Northern Fulmars a Thick Billed Murres sydd o gwympas (maen ddrwg gennyf fy mod heb ddod ar llyfr adar yn Gymraeg ond nid oedd lle yn fy mag).
Mae pawb ar y cwch yn gwneud yn dda iawn ar bwyd yn flasus bob nos, rydym yn cymeryd rhan bob pump diwrnod i wneud y bwyd.
Bore ddoe ddaru ni gyd ddeffro yn Erebus a Terror Bay ac roedd pobeth yn wyn hefo eira ac yn oer! Roedd gwynt cryf or gorllewin ac ddaru ni adael yno tua hanner awr wedi tri i symud i lawr i Rigby sydd ar ochor y de Devon Island uwch ben Prince Regent Sound.
Rydym yn symud ymlaen lawr i Prince Regent Sound a disgwyl fydd y rhew yn meddalu.Mae y tug o Norway a barge sydd  yn mynd i nol y cwch Maud  (cwch Rasmussen ddaru cael ei dal yn y rhew  tua 1926 yn Porth Leopold. Rydym wedi bod mewn cysylltiad ar captain bore ma ac hefyd gyda y cwch Drina o Awstralia sydd yn trio ffeindio ffordd drwy y rhew ir For y Pasific.
Mae pawb nawr a box plastic gyda ei henw arno ac mae problem lle mae y biscuits yn mynd wedi cael ei ateb!
Yn  y dyddiau nesaf yma rydym yn symud lawr tuag  at y Bellot Strait ac wedyn tua y Franklin Strait.Maen amlwg ar y funud mae y rhew yn meddalu mwy ar ochor dwyrain King William Island neu ar yr ochor ir gorllewin.
Diolch yn fawr ichi i gyd am eich diddordeb yn en taith  i Nome yn Alaska!
Cofion cynnes ichi gyd, Hywel.