CATRYN wedi cyraedd amser allweddol

CATRYN
David Rice
Tue 19 Aug 2014 18:04
Maen amlwg nawr  mae gennym wyrach ddeg diwrnod ar ol yn yr Arctic cyn y posibilrwydd o gael ein rhewi i fewn yma am y gaeaf. Rwyf fi ddim eisiaun gwneud hynny ond rwyf eisiau gwneud yn siwr ein bod yn cymeryd pob cyfle i drio mynd drywodd y flwyddyn yma  cyn inni ddychwelyd ir Ynys las a Chymru. Mae  pedwar cychod hwylio wedi gwneud y pendyrfyniad i droi yn ol yn yr wythnos diwethaf.Y trwbwl yw y rhew! Nid yw yn meddalu digon ar y funud i  ni hwylio  ffor y Pasiffic. Nid oes un llong wedi mynd trwy y flwyddyn yma, dim un llong dori rhew!
Rydym ar y funud yn  74.40 degrees Gogledd ac ni fyddwn yn mynd yn uwch na hyn ir gogledd. Rydym mewn lle da iawn os bydd rhywbeth yn agor ir de. Os bydd ffor yn agored maen debyg y byddwn yn hwylio lawr i Prince Regent Inlet a trwy y Bellot Strait ac wedyn i lawr Franklin Srait sydd ar y funud wedi rhewi gyda 9/10 o rhew.
Mae fy nghriw I  gyd mewn ysbrydion da ac mae gennym ddigon o danwydd a bwyd i hwylio i Alaska ac mae Catryn yn gwch cryf ac yn gwneud yn dda iawn hefor siwrnau hwylio
Rydym wedi cyrraed yr amser allweddol yn ein ymgais i hwylio y Ffor ir Pasiffic yr haf yma.Mi fydd yr ateb yn y deg diwrond nesaf.