Fffor y Paciffic.

CATRYN
David Rice
Sat 30 Aug 2014 01:21
Heno rydym yn hwylio lawr ochor glan dwyrain Baffin Island lawr i Labrador ac wedyn i Lewisport yn Newfoundland. Ar y funud rydym yn 70*.25 gogledd a 68*.00 gorllewin. Ddaru ni adael Pond Inlet dau ddiwrnod yn ol i gael negesau ar y daith ir de. Cawsom dipyn o wynt a tonnau neithiwr  i wneud pethau yn rolli polli! Roedd hi yn reit wyllt enwedig hefo gymaint o bergs rhew mawr o gwympas. Ddaru ni fynd heibio un roedd yn ddwy filltir ar i hyd! Rodd yn edrych yn debyg i fryniau  Dover ar Sianel Lloeger! Tua pedwar o gloch bore ma ddaru ni benderfynu hwylio i fewn i gysgodi othiwrth y gwynt ar tonnau. Wedi disgyn yr angor yn Harbwr Raven Craig ar Cape Eglinton tua hanner awr wedi saith borema. Ar ol uwd a paned o de euthum i gyd i gysgu am ryw dair awr cyn cychwyn are in taith ir de ar ol ir gwynt fynd lawr.
Heddiw oedd y diwrnod roeddwn yn cogino.  Wedi cyrraedd yn y bae bore yma ddaru fi bysgota am ryw ychydg i drio  cael pysgodyn i swper heno ond dim lwc heddiw. Gwnes ddwy gacen  llysiau gyda cnau  cawl hefo cod wed rhewi, can o eog, pisyn bach o tuna oedd ar ol yn y ty rhewi, tatws, moron, wniwns.   Salad, a pisyn o fara tost hefo garlic arno, cawl ar gacen i bwdin!Rwyf nawr wedi gorffen coginio am bump diwrnod! Mi fyddaf yn gwneud uwd bore yfory ac wedyn  sandwich hanner dydd yfory i bawb. Rydym yn cymeryd ein tro yn gwneud y bwyd ac y person sydd yn gwneud mae yn gallu cysgu drwyr nos a dim sefyll watch ar yr olwyn.
Mae yn gweithio allan yn reit dda ac mae yn bosib cael noson o gysgu pob pump diwrnod am fod pump ohonym. Heddiw mae y gwynt yn chwythu allan or de dwyrain dim yn gyfleus iawn inni yn trafeilio ir de.
Mae hwyl iawn ar y cwch ac mae Dai a finnau wedi bod wrthi yn canu caneuon yn Gymrag ac yn cael hwyl iawn wrthi. Mae Myfanwy, Calon Lan, Efengyl Tangnefedd, Nant y Mynydd, Hefo Dai i Dywyn, Oes Gafr eto? yn cael ei canu yn amal iawn yma yn yr Arctic! Rydym yn ffond iawn or chanty “ Santiana”
 
Oh Santiana Chwist dy Gorn
Ei o Santiana, ir wyntedd tega rownd yr horn,
Maen chartrf i yn Ngymru bell.
 
Mae ty fy nhad yn wyn o hardd
Ei o Santiana,
A rhosus cochion yn yr ardd,
Maen chartref i yn Ngymru bell.
 
Ar ben y drws maen mam a nhad,
Ei o Santiana,
Rhoes nynlle tebyg i fy ngwlad,
Maen chartref i yn Ngymru bell.
 
Maer hwyliau wedi rhewin gorn
Ei o Santiana,
Ir wyntoedd tegu rownd yr horn ,
Maen ngartref i yn Nghymru bell.
 
 
Rydym wedi bod yn mwynhau yr haul allan drwyr nos y mis diwethaf ond nawr fel yr ydym yn hwylio ir de mae hi yn tywyllu ychydig mwy pob nos. Neithiwr tua tair awr o dywyll. Disgwyl cyrraedd yn Newfoundland tua y 10 fed o Fedi.
Diolch yn fawr ichi i gyd am eich diddordeb yn ein taith.
Nos da, Hywel.