Nodyn gan Hywel.

CATRYN
David Rice
Tue 26 Aug 2014 15:45
Bore Da,
Ar y funud rydym yn hwylio ir dwyrain ar ochor y dde Lancaster Sound ar ein ffordd i St Johns,Newfoundland. Rydym wedi pendyrfunu o achos y rhew caled sydd wedi blocio Y Franklin Strait ar Larsen Sound eleni nid oes posib mynd trwodd i Cambridge Bay ac ymlaen i fynu i Alaska. Mae fwy o rew y flwyddyn yma ac maent wedi gweld ers llawer blwyddyn ac mae y gaeaf yn cychwyn yn gynnarach ac yn   ail rhewi! Mae hi wedi bod yn reit oer yma ac roedd rhai ohonym wedi disgwyl mynd i cael dip yn y dwr clir yma ond dim eto!
Ddaru Dai wneud y penderfyniad i droi yn ol on ddaru ni i gyd gydmuno gydai ddewis o hwylio lawr i St Johns, Newfoundland. Yno bydd Catryn yn aros tan y flwyddyn nesaf i ail drio fynd trwy ffor y Paciffic.
Rydym i gyd  wedi cael amser da iawn, dysgu llawer am yr ardal yma or byd, cyfarfod a pobol diddorol iawn, hwylio ar ben y byd, dringo mynyddoedd a edrych allan dros y creufiad(?) unig ac oer on gwympas!
Mae digon o de ar ol ac un cacen! Mi fyddwn yn cyrraedd yn Pond Inlet pnawn yfory i brynu ychwaneg o fwyd a petrol i hwylio lawr arfordir Labrador a disgwyl cyrraedd Newfoundland tua canol mis Medi.
Pob hwyl ici i gyd a diolch yn fawr am eich diddordeb yn ein taith mor,
Cofion cynnes,Hywel.