Cyrraedd Cape Bauld, Newfoundland,

CATRYN
David Rice
Sun 14 Sep 2014 20:32
Dyma ni newydd gyrraedd gogledd Newfoundland. Pnawn ddoe daru ni hwylio allan o Cartwright, Labrador. Aros yno am ddau ddiwrnod i gael cysgod or storm fawr o wynt a mor mawr. Roedd yn bosib cael prynu bwyd yno yn y farchnad a pysgod i swper. Ddaru y tri ohonym ffeindio tafarn fach gyfeillgar ar lan y mor lle roeddym yn gallu cadw un lygaid ar Catryn ar lygaid arall ar y pobol diddorol roedd yn cerdded i fewn drwy y drws. Roedd wifi yno cwrw, a sgwrs da i gael gyda pobol yr ardal. Rhaid i mi ddweud ddaru ni wneud dipyn o ffrindiau y noson gyntaf pan roeddym i gyd yn canu, dipyn o noson lawen!
Roedd hi yn siwrnau rolli polli neithiwr yn hwylio lawr glan Labrador.
Cawsom gawl pysgod neithiwr i ginio a bore ma uwd am chwech o’gloch. Sandwich  a winkles am hanner dydd a pnawn ma cawsom grempog,  mel a paned o de.
Mae y gwynt ar tonnau wedi bod ar ein trwyn heddiw yn croesi dros y Strait of Belle Isle ac me hi braidd yn wyllt.  Ddaru ni gyrraedd glan Cape Bauld yn Newfoundland ryw awr yn ol ond mae y tywydd mor ddrwg rydym am chwilio am le i gael cysgod ir gwynt fynd lawr.
Rydym ryw gant a hanner o filltiroedd o Lewisport a disgwyl cyrraedd yno yfory ond mae y gwynt yn mynd i gryfhau heno ac yfory ac mae yn bosib y byddwn yn aros yma am ddiwrnod arall!Mae y tri ohonym mewn ysbryd da on yn edrych ymlaen i gyrraedd adref ar ol bod yn hwylio am chwech wythnos.
Mi adael ichi i  gyd wybod eto  sut yr ydym yn gwneud hefo y tywydd yma.
Cofion cynnes atoch , Hywel.